Cym | Eng

Newyddion

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn meddiannu meysydd chwarae

Date

14.04.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae ar 11 Mehefin, bydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn meddianu meysydd chwarae mewn tair ysgol ddewisiedig yng Nghymru. Mae’r meddiannau yn dathlu pŵer chwarae, gan roi cyfle i blant fwynhau prynhawn o chwarae a ddewiswyd yn rhydd gan ddefnyddio ystod eang o rannau rhydd ac adnoddau creadigol.

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn gofyn i aelodau o’r sector Clybiau All-Ysgol enwebu ysgol a fyddai’n elwa o’r profiad o gymryd drosodd eu maes chwarae. Gall enwebiadau fod ar gyfer ysgol rydych chi’n gweithio’n agos gyda hi, un yn eich cymuned leol, neu un a fyddai’n gwerthfawrogi’r cyfle i wella profiadau chwarae’r plant.

Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 24 Ebrill 2026

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors