Cym | Eng

Cyllid

Ariannu: Cronfa i Gymru

Date

10.04.2026

Category

Cyllid

Ariannu: Cronfa i Gymru

Archwiliwch

Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, dan arweiniad y gymuned (er enghraifft cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000. Mae Cronfa i Gymru yn gronfa gwaddol gymunedol genedlaethol, sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae’r gronfa yn awyddus i roi grantiau sy’n arwain at y canlyniadau canlynol:

  • Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
  • Adeiladu cymunedau cryfach
  • Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
  • Annog pobl a chymunedau iachach a mwy egnïol
  • Gwarchod treftadaeth a diwylliant.

Mae grantiau rhwng £500 a £2,500 y flwyddyn, am hyd at dair blynedd, ar gael i sefydliadau y mae eu ceisiadau’n cyflawni orau yn erbyn y canlyniadau a restrir.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors