Archwiliwch
Mae Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, wedi gwneud y Gorchymyn Eithriadau Gwarchid Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 (‘Gorchymyn 2026’). Nod Gorchymyn 2026 yw moderneiddio ac egluro’r eithriadau ar gyfer darparwyr gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau.
Mae Gorchymyn 2026 yn nodi’r amgylchiadau pan na fo’n ofynnol cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC/CIW) fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ac sydd felly yn eithrio’r unigolyn. Mae bod wedi eu heithrio rhag gorfod cofrestru yn golygu nad yw’n ofynnol i warchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd:
- gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru
- cydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
- rhoi sylw i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y gweinidog:
‘Mae Gorchymyn 2026 yn sicrhau bod y trefniadau ar gyfer goruchwylio’r gofal plant, y gwaith chwarae a’r gweithgareddau a ddarperir yng Nghymru yn gymesur ac yn addas wrth benderfynu pa ddarparwyr nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru. Mae Gorchymyn 2026 yn sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen am oruchwyliaeth a’r gwaith o gefnogi teuluoedd i barhau i gael mynediad at ystod eang o ddarpariaeth gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau sy’n diwallu eu hanghenion.’
Bydd Gorchymyn 2026 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027 ac yn gwbl orfodadwy erbyn 1 Ebrill 2028 yn dilyn cyfnod pontio o flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau i helpu pobl i ddeall Gorchymyn 2026 cyn iddo ddod i rym.