Cym | Eng

Newyddion

Crynodeb o ymatebion arolwg SGC Gofal Plant

Date

12.03.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Yn dilyn ei ymgynghoriad ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig i blant hyd at 12 oed, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion.

Mae Ymgynghoriad – crynodeb o’r ymatebion yn tynnu sylw at gefnogaeth eang o bob rhan o’r sector gofal plant a chwarae i’r newidiadau arfaethedig, gan ddangos cyd-ymrwymiad i sicrhau mynediad at ofal plant o ansawdd uchel, sy’n ddiogel ac yn meithrin plant yng Nghymru. Ynghyd a’r crynodeb, ma Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Asesiad Effaith Integredig, sy’n darparu asesiad clir o effeithiau’r newidiadau arfaethedig yn gymdeithasol, yn economaidd ac o ran lles.

Bydd y mewnwelediad hwn nawr yn llywio cam nesaf y gwaith wrth i Lywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid a’r sector i gwblhau a gweithredu diweddariadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Mewn datganiad ysgrifenedig, diolchodd Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad: ‘Mae eich adborth wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu i lunio safonau sy’n berthnasol, yn gymesur ac yn addas i’r diben, heddiw ac ar gyfer y dyfodol.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors