Cym | Eng

Newyddion

Yn fuan – ymgynghoriad a gweminarau NOS gwaith chwarae

Date

27.02.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU wedi gwneud cynnydd sylweddol ar ei adolygiad o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer gwaith chwarae. Mae Grŵp Ysgrifennu’r NOS wedi drafftio safonau ar gyfer y rolau cynorthwyydd gwaith chwarae, gweithiwr chwarae a rheolwr gwaith chwarae.

Y ffocws yw’r defnydd o waith chwarae mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau a nod y safonau yw adlewyrchu’r swyddogaethau generig cyffredinol mewn gwaith chwarae. Ceir cyfres o safonau craidd ar gyfer pob rôl ynghyd ag unedau dewisol ychwanegol, a bydd y consortiwm yn gofyn am eich adborth arnynt.

Bydd yr ymgynghoriad ar-lein i gasglu adborth gan y sector yn agor 9 Mawrth ac yn cau 1 Mai 2026.

Mae Consortiwm y NOS hefyd yn cynnal cyfres o weminarau ar draws y pedair gwlad lle y gallwch ddysgu mwy am y broses a rhoi adborth cychwynnol. Rydym wedi darparu nifer o amseroedd a dyddiadau. Os na allwch fynychu digwyddiad eich gwlad chi, mae croeso i chi archebu lle ar ddyddiad arall sy’n addas i chi.

Os hoffech chi fynychu gweminar, cofrestrwch trwy glicio ar y digwyddiad o’ch dewis:

Cofiwch gysylltu â ni os gyda unrhyw gwestiynau am y gweminarau.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors