Llyfrgell adnoddau
Chwarae yn y 1000 diwrnod cyntaf
Pwnc
Taflen wybodaeth
Dyddiad cyhoeddi
25.02.2026
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Chwefror 2026
Taflen wybodaeth newydd sy’n archwilio pwysigrwydd chwarae yn ystod y 1000 o ddiwrnodau cyntaf – y cyfnod yn ystod beichiogrwydd a hyd at ail ben-blwydd y plentyn. Mae’r 1000 o ddiwrnodau cyntaf yn cynnig potensial mawr ar gyfer sicrhau effaith cadarnhaol a pharhaol. Chwarae yw’r sail i ddatblygiad plant yn ystod y cyfnod hwn.
Yn ogystal â chynnig mwynhad diymdroi i fabanod, plant bach a phlant ifanc, mae chwarae’n agwedd hanfodol o ddatblygiad plentyn. Trwy chwarae, bydd plant yn dysgu, yn archwilio ac yn gwneud synnwyr o’r byd o’u hamgylch.
Wedi ei gymeradwyo gan Blynyddoedd Cynnar Cymru, mae Chwarae yn y 1000 diwrnod cyntaf yn cynnwys gwybodaeth am:
- bwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles uniongyrchol a hirdymor
- pwêr chwarae ar gyfer babanod, plant bach a phlant ifanc
- rôl oedolion
- cymorth i ofalwyr
- chwarae a’r systemau synhwyraidd
- rôl gweithwyr proffesiynol wrth hyrwyddo chwarae.
Mae hefyd yn cynnwys adran gyda gwybodaeth i rieni am chwarae yn y 1000 o ddiwrnodau cyntaf a syniadau ar gyfer chwarae gyda babanod a phlant bach ar wahanol oedrannau.
Anelir y daflen wybodaeth at y rheini sy’n gweithio gyda babanod, plant bach a phlant ifanc a’u rhieni a gofalwyr. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i unryw un sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am, chwarae plant a’r blynyddoedd cynnar.