Cym | Eng

Newyddion

Holiadur: Chwarae a chymdeithasu tu allan yn ystod misoedd y gaeaf

Date

23.02.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Ar gyfer Mater Misol mis Chwefror mae Comisiynydd Plant Cymru yn gofyn i blant ac arddegwyr am chwarae a chymdeithasu yn ystod misoedd y gaeaf. Mae Chwarae Cymru yn gweithio gyda’r Comisiynydd Plant ac rydym eisiau gwybod sut mae profiadau chwarae a chymdeithasu yn newid yn ystod y gaeaf (mis Tachwedd tan mis Mawrth).

Rhannwch yr holiadur byr gyda’r plant a theuluoedd yr ydych yn gweithio â hwy os gwelwch yn dda. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r holiadur yw 28 Chwefror 2026.

Bob mis mae’r comisiynydd yn gofyn i blant ac arddegwyr ledled Cymru am hawliau penodol neu bwnc amserol sy’n effeithio arnynt.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors