Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad cydymffurio diweddaraf yn egluro’r gwaith a wnaethpwyd i gefnogi hawliau plant rhwng mis Ebrill 2023 a mis Medi 2025.
Gosododd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i hawliau plant wrth arfer eu swyddogaethau, ac i gyhoeddi adroddiad yn esbonio sut maent wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd. O dan y Cynllun Hawliau Plant, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad bob dwy flynedd a hanner.
Mae’r adroddiad yn cynnwys diweddariadau am waith Llywodraeth Cymru i gefnogi hawl plant i chwarae, megis rhoi cyllid i awdurdodau lleol i wella mannau chwarae a diweddaru dogfennau yr Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ar gyfer awdurdodau lleol. Mae cyfranogiad plant mewn arolygon yr Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, a’r adroddiad o’r darganfyddiadau, hefyd wedi eu cynnwys fel astudiaeth achos yn yr adroddiad cydymffurfio.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol:
‘Mae’r adroddiad yn gyfle i ystyried yr ystod eang o bolisïau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u datblygu i helpu plant Cymru i wireddu eu hawliau yn ystod y cyfnod adrodd hwn … Rydym am greu Cymru ar gyfer pob plentyn; lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol.’