Cym | Eng

Newyddion

Cyfle astudio doethuriaeth: Cymryd Chwarae o Ddifrif

Date

13.02.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Prifysgol Abertawe yn croesawu ceisiadau ar gyfer ysgoloriaeth doethuriaeth ymchwil chwarae, llawn amser neu rhan amser. Bydd y prosiect ymchwil Cymryd Chwarae o Ddifrif: Plentyndod, Chwarae a Llunio Polisïau yng Nghymru, o 1945 tan y Presennol yn cychwym ym mis Hydref 2026 ac yn cael ei oruchwylio gan Dr Sarah Crook a Dr Jacky Tyrie.

Cynhelir gweminar i ymgeiswyr ar 3 Mawrth. Bydd hwn yn gyfle i drafod y prosiect ac i ofyn cwestiynau.

Mae hwn yn gyfle ar gyfer ymgeiswyr y DU yn unig. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 22 Mawrth 2026.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors