Archwiliwch
Mae Chwarae Cymru yn galw ar i lywodraeth nesaf Cymru barhau â’i hymrwymiad hirsefydlog i flaenoriaethu chwarae. Rydym yn gofyn i bob plaid wleidyddol i ddal ati i gefnogi gweithredu’r Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae statudol.
Rydym annog y llywodraeth i wneud ymrwymiadau traws-bolisi i sicrhau bod cyfleoedd plant i chwarae’n cynyddu a gwella. Mae blaenoriaethu chwarae plant yn sicrhau buddiannau profedig i blant, teuluoedd a chymunedau, a hynny’n uniongyrchol ac yn y tymor hir.
Yn ein maniffesto – Eiriol dros chwarae plant – rydym yn gwneud 15 galwad sy’n canolbwyntio ar:
- arweinyddiaeth strategol
- cymdogaethau chwareus
- ysgolion chwareus
- chwarae’n ystod adegau o ansicrwydd.
Bydd etholiad nesaf y Senedd ar 7 Mai 2026, yn gyfle i bob un ohonom amlygu’r hyn yr ydym ni’n gofyn amdano ar gyfer chwarae yng Nghymru. Gall y maniffesto ein helpu i lunio cwestiynau i’w gofyn i wleidyddion wrth iddyn nhw ddechrau ymgyrchu’n lleol yn y paratoadau ar gyfer yr etholiad.
Rydym wedi rhannu ein maniffesto gyda phrif bleidiau gwleidyddol Cymru, ac rydym ni’n gobeithio eu bod wedi ei gael yn ddefnyddiol wrth ddatblygu eu blaenoriaethau a’u hagenda eu hunain ar gyfer Cymru. Mae ganddo’r potensial i ddylanwadu ar gamau gweithredu llywodraeth nesaf Cymru.