Archwiliwch
Ar gychwyn mis Rhagfyr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hadroddiad Cynnydd ar y Strategaeth Tlodi Plant, sy’n manylu ar gyflawniadau a’r gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â thlodi plant. Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r tair blynedd ers cyhoeddi’r adroddiad cynnydd blaenorol ym mis Rhagfyr 2022, ynghyd â’r strategaeth bresennol (a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024).
Mae Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024 yn gosod y cyfeiriad ar gyfer camau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi plant dros y degawd nesaf. Mae’n gwneud hyn drwy fanylu ar bum amcan, pum blaenoriaeth sy’n gysylltiedig â’r amcanion hynny, a 19 o ymrwymiadau i drechu tlodi yng Nghymru.
Amcan 3 y strategaeth yw cefnogi lles plant a theuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ar draws Llywodraeth Cymru yn cyflawni ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig fel y gallant fwynhau eu hawliau a chael canlyniadau gwell.
Mae’r amcan hwn yn cydnabod bod pobl eisiau byw mewn ardaloedd lle mae ganddynt gyfleusterau i chwarae, cyfarfod â ffrindiau a theithio i brofiadau diwylliannol heb rwystrau trafnidiaeth ddrud. Ymrwymiad allweddol o fewn yr amcan hwn yw: ‘Bwrw ati, ar y cyd â phartneriaid, i gynnig mwy o gyfleoedd chwarae, chwaraeon ac ieuenctid yn y gymuned a chyfleoedd i fwynhau’r celfyddydau, diwylliant ac adnoddau naturiol.’
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawander Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip:
‘Nid yw’r Adroddiad Cynnydd yn osgoi’r ffaith bod lefel tlodi plant yng Nghymru yn annerbyniol. Mae’n amlwg bod mwy y gellir ac y dylid ei wneud i fynd i’r afael â thlodi plant, ac mae hyn yn cynnwys parhau â’r ymdrechion i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a dylanwadu arni yn ei phenderfyniadau am bolisïau sy’n effeithio ar bobl yma yng Nghymru…
Fodd bynnag, fel sy’n amlwg yn yr adroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau sylweddol i leihau effaith tlodi ar blant a’u teuluoedd. Rwy’n teimlo balchder mawr yn y gwaith a ddisgrifir yma, ac mae’n rhaid inni barhau i wrando ar ein plant a’n teuluoedd am yr hyn sy’n gweithio i’w cefnogi gyda materion uniongyrchol a brys a chyda llwybrau tymor hirach allan o dlodi.’