Cym | Eng

Newyddion

Ymateb drafft Chwarae Cymru – ymgynghoriad SGC ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Date

27.11.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed yn canolbwyntio ar y newidiadau arfaethedig diweddaraf. Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys strwythur a fformat y safonau, safonau chwarae mynediad agored a’r defnydd o staff mewn lleoliadau gofal dydd.

Ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored yn arbennig, mae rhai newidiadau pwysig, gan gynnwys:

  • diffiniad wedi’i ddiweddaru o fynediad agored
  • penderfyniad i ddatblygu safonau mynediad agored annibynnol
  • datblygu dull sy’n galluogi darparwr i gofrestru unwaith wrth weithio ar draws sawl safle.

Dyma ymateb drafft Chwarae Cymru i’r ymgynghoriad. Rydym yn ei rannu er mwyn helpu rhanddeiliaid i lunio eu hymateb eu hunain. Os hoffech chi rannu unryw adborth i lywio ein hymateb terfynol, cofiwch ein ebostio.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad yw 10 Rhagfyr 2025.

Lawrlwytho ymateb drafft Chwarae Cymru

Rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors