Archwiliwch
Mae amser o hyd i gymryd rhan yn yr arolwg ymchwil Egwyddorion Gwaith Chwarae. I nodi 20fed pen-blwydd yr Egwyddorion Gwaith Chwarae mae Chwarae Cymru wedi comisiynu Tîm Datblygiad Plentyndod a Gwaith Chwarae Prifysgol Leeds Beckett i gynnal arolwg ar y raddfa y defnyddir yr egwyddorion.
Mae’r ymchwil wedi ei ddylunio i ddysgu pa mor eang ac ym mha leoliadau y mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae wedi eu mabwysiadu 20 mlynedd ers iddynt gael eu dyfeisio gyntaf. Bydd hyn yn golygu holi’r sector gwaith chwarae’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, i ddynodi:
- sefydliadau a rhanddeiliaid sydd wedi mabwysiadu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae neu sy’n defnyddio’r Egwyddorion Gwaith Chwarae i hysbysu eu gwaith
- sefydliadau sydd wedi mabwysiadu ffurfiau amgen o egwyddorion canllaw ar gyfer gwaith chwarae.
Rydym yn gwahodd unryw un sy’n darparu darpariaeth chwarae wedi’i staffio, ym mha bynnag leoliad, i gwblhau’r arolwg ar-lein.
Dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg: 31 Rhagfyr 2025