Archwiliwch
Rhwng 10 ac 14 Tachwedd 2025, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal digwyddiadau ac yn rhannu arfer da i ddathlu ei wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed. Cynhelir y digwyddiadau, sy’n rhad ac am ddim, ar-lein ac maent ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant, gan gynnwys rheolwyr, ymarferwyr a thiwtoriaid/aseswyr.
Bydd y digwyddiadau ar-lein yn ymdrin ag ystod o bynciau, megis:
- O werthoedd i effaith: Ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant
- Gyrfaoedd mewn gofal plant blynyddoedd cynnar
- Gwrth-hiliaeth ac amrywiaeth yn y blynyddoedd cynnar.