Archwiliwch
Mae Learning through Landscapes (LtL) yn gweithio mewn partneriaeth â WWF ar raglen ariannu newydd i gysylltu plant mewn ysgolion gyda natur.
Mae’r Happy by Nature Fund yn agored i ysgolion cynradd, babanod neu iau yn y DU. Bydd deg ysgol beilot yn derbyn grant o £10,000 yr un, ynghyd ag arweiniad arbenigol gan LtL, i’w grymuso i ddatblygu tiroedd ysgol sy’n llawn natur gyda mewnbwn gan ddylunwyr arbenigol.
Bydd hyfforddiant pellach gan staff LtL yn cefnogi disgyblion i fwynhau mwy o chwarae-natur yn eu mannau fydd wedi eu gwella – boed hynny mewn maes chwarae gyda mwy o wyrddni, parth natur newydd ei greu neu ardal ddysgu awyr agored well.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9 Tachwedd 2025