Cym | Eng

Newyddion

Ymchwil: chwarae yn atal trawma i blant mewn gofal iechyd

Date

13.10.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

I nodi Wythnos Chwarae mewn Gofal Iechyd 2025, mae Starlight Children’s Foundation wedi lansio adroddiad newydd sy’n datgelu sut y gall dal plentyn i lawr ar gyfer gweithdrefnau meddygol achosi trawma parhaol i blant, a sut y gall chwarae ei atal. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar arolygon gyda phlant, rhieni a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae’r adroddiad, Causes of Trauma from Children’s Healthcare, yn amlygu bod corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos bod risg uwch y bydd plant yn datblygu problemau iechyd meddwl oherwydd y trawma y maent wedi’i brofi o’u gofal iechyd.

Mae tystiolaeth Starlight yn dangos mai cael mynediad at weithwyr proffesiynol chwarae ac iechyd yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu plant rhag trawma meddygol a chyflyrau iechyd meddwl eraill sy’n gysylltiedig â lleoliadau gofal iechyd a thriniaeth. Mae gan chwarae iechyd lawer o fanteision, gan gynnwys:

  • cefnogi plant i adennill ymdeimlad o reolaeth ac ymreolaeth
  • lleihau pryder ac ofn a helpu plant i ymdopi â straen
  • cefnogi adferiad cyflymach ar ôl triniaeth.

Mae Starlight yn galw am gydnabod gwerth chwarae a’i wreiddio yng ngofal iechyd pob plentyn a darparu adnoddau yn unol â hynny. Er mwyn i chwarae fod yn rhan annatod o ofal iechyd plant, mae’r elusen yn gwneud nifer o alwadau, megis:

  • Rhoi gwybodaeth glir a hygyrch i rieni a gofalwyr ynghylch pam mae chwarae’n bwysig mewn gofal iechyd a sut mae gwasanaethau chwarae iechyd yn cefnogi eu plentyn.
  • Rhoi hyfforddiant i bob tîm pediatrig amlddisgyblaethol am elfennau craidd chwarae therapiwtig.
  • Cryfhau’r proffesiwn chwarae iechyd trwy wreiddio’r gweithlu yng nghynlluniau gweithlu’r GIG.

Dywedodd Dr Krutika Pau, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Plant Starlight:

‘Gall chwarae drawsnewid ystafell ysbyty neu ymweliad â’r deintydd yn ofod o gysur a rhywfaint o reolaeth, gan droi gweithdrefnau brawychus a phoenus yn brofiadau hylaw. Mae gan chwarae’r pŵer i atal trawma a gwella canlyniadau i blant, eu teuluoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwasanaethau iechyd, yn y tymor byr a’r hirdymor … Mae ein hymchwil yn dangos bod chwarae’n atal trawma mewn gofal iechyd.’

Mwy o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors