Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Chwarae dros Gymru – rhifyn 65

Pwnc

Cylchgrawn

Dyddiad cyhoeddi

26.09.2025

Darllen yr adnodd

Chwarae dros Gymru – rhifyn 65

Gwanwyn | Haf 2025

Mae’r rhifyn newydd o’r cylchgrawn yn archwilio’r thema o chwarae yn y gymdogaeth, gan ganolbwyntio ar leoedd a mannau i chwarae. Mae’n cynnwys enghreifftiau o bob cwr o Gymru.

Mae chwarae’n cefnogi plant i deimlo’n rhan o’u cymdogaethau ac mae plant ledled Cymru yn dweud wrthym bod cyfleoedd i chwarae yn eu hardal leol, gyda’u ffrindiau, yn bwysig iddyn nhw. Mae’r erthyglau yn tynnu sylw at ddulliau cydweithredol amrywiol o gynnig cyfleoedd chwarae i gwrdd â anghenion plant yn eu hardaloedd.

Mae’r erthyglau’n cynnwys:

  • Yr hyn mae bron i 8,000 o blant ledled Cymru yn ei ddweud am chwarae yn y gymdogaeth – beth sy’n dda a beth sydd ddim cystal am eu cyfleoedd i chwarae
  • Meddwl yn greadigol – enghreifftiau o brosiectau chwarae mewn cymdogaethau a arweinir gan Dîm Chwarae ac Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gwasanaethau Chwarae Plant Cyngor Caerdydd ac Uned Blynyddoedd Cynnar Gwynedd
  • Stryd chwarae Romilly Road – trefnydd stryd chwarae sy’n rhannu ei phrofiadau o greu cymuned chwareus yn Y Barri ym Mro Morgannwg
  • Diwrnod Chwarae 2025 – casgliad o luniau o blant a theuluoedd ar draws Cymru yn dathlu’r diwrnod chwarae cenedlaethol
  • Lôn chwarae ym Mhilgwenlli – esiampl o sut mae cymuned yng Nghasnewydd wedi gweithio gyda darparwr tai i drawsnewid lôn i greu man chwarae dros dro ar gyfer plant lleol
  • Gwella mannau chwarae a meysydd chwarae – trosolwg o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i wella cyfleoedd chwarae ynghyd â enghraifft ymarfer dda o faes chwarae, Williams Field Lane, sydd wedi’i adnewyddu gan Gyngor Sir Fynwy
  • Swyddog datblygu chwarae cymunedol sydd dan y chwyddwydr – rhoi darlun o rôl yn y byd chwarae a gwaith chwarae.

 

Mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys dwy erthygl ryngwladol:

  • Is-gadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, Yr Athro Emeritws Philip Jaffé, sy’n rhannu ei farn am bwysigrwydd hawl plant i chwarae ac sut y dylid ei flaenoriaethu mewn byd heriol sy’n newid
  • Ysgrifennydd cangen IPA Cymru Wales, Marianne Mannello, sy’n adrodd am brosiect cydweithredol chwareus gyda IPA Japan i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae eleni.

 

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Cylchgrawn | 30.04.2025

Chwarae dros Gymru – Rhifyn 64 Chwarae dros Gymru – Rhifyn 64

Rhifyn 'Cynllunio ar gyfer chwarae – cynnwys y plant' o'n cylchgrawn

Gweld

Cylchgrawn | 10.10.2024

Chwarae dros Gymru – Rhifyn 63 Chwarae dros Gymru – Rhifyn 63

Rhifyn 'Chwarae yn y blynyddoedd cynnar' o'n cylchgrawn

Gweld

Cylchgrawn | 12.03.2024

Chwarae dros Gymru – rhifyn 62 Chwarae dros Gymru – rhifyn 62

Rhifyn 'Chwarae a lles – cip arall' o'n cylchgrawn

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors