Cym | Eng

News

Ymchwil: effaith llety dros dro ar blant a’u teuluoedd

Date

14.09.2025

Category

News

Archwiliwch

Dengys ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan bod gan byw mewn llety dros dro y potensial i effeithio’n ddifrifol ar les plentyn a’i allu i ddatblygu a dysgu. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r risg o niwed corfforol.

Mae byw mewn llety dros dro yn golygu ansicrwydd, a diffyg lle a phreifatrwydd. Gall hyd yn oed llety sydd wedi’i gynllunio ar gyfer anghenion cymorth teuluoedd, fel hosteli a llochesi, gael ei gyfyngu pan fydd arosiadau dros dro yn para am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd.

Yn yr adroddiad, The impact of temporary accommodation on children and their families, dywed y sefydliad:

‘Mae chwarae’n hynod bwysig i ddatblygiad plentyn a gall helpu plentyn i ymdopi â sefyllfaoedd o argyfwng, ond gall byw mewn amodau cyfyng neu pan fo teganau wedi eu storio gyfyngu ar gyfleoedd chwarae.’

Yn ei restr o argymhellion ar gyfer cadw bywyd mor normal â phosibl i blant a’u teuluoedd tra’n byw mewn llety dros dro, mae Sefydliad Bevan yn galw ar:

  • Llywodraeth Cymru i ddiwygio Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i wahardd y defnydd o lety sydd ddim yn rhoi modd i blentyn chwarae
  • Llywodraeth Cymru i ariannu a darparu pecynnau chwarae addas i blant sy’n byw mewn llety dros dro.

Mae’r adroddiad ymchwil yn cynnwys sbotolau ar brosiect Chwarae Cymru i ddarparu pecynnau chwarae i deuluoedd sy’n byw mewn llety dros dro. Wrth groesawu’r ymchwil newydd, dywed Chwarae Cymru:

‘Mae ein prosiect peilot ar raddfa fach a gefnogodd dimau chwarae awdurdodau lleol i ymgysylltu â rhieni a theuluoedd yn nodi mai ychydig o fynediad sydd gan blant i fannau chwarae diogel, glân neu ddiwylliannol briodol, a’u bod yn aml wedi’u hynysu oddi wrth ddarpariaeth gymunedol. Rydym yn croesawu’n arbennig yr argymhellion sy’n galw am roi mwy o ystyriaeth i wahardd y defnydd o lety nad yw’n rhoi modd i blentyn chwarae.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors