Cym | Eng

Funding

Ariannu: Meithrin Natur

Date

07.09.2025

Category

Funding

Ariannu: Meithrin Natur

Archwiliwch

Mae Meithrin Natur, rhaglen newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn anelu i wella iechyd a lles plant a’u gofalwyr yng Nghymru. Mae’r cyllidwr yn chwilio am brosiectau sy’n helpu plant a’u gofalwyr i gysylltu â’r amgylchedd naturiol.

Mae hyn yn cynnwys rhoi profiadau cadarnhaol ac ystyrlon i blant a’u gofalwyr gyda natur a mannau awyr agored, fel parciau, afonydd neu goedwigoedd. Mae’r plant a gofalwyr yn cynnwys: babanod a phlant dan bump oed, rhieni sy’n feichiog, yn ogystal â theulu, gofalwyr maeth, gofalwyr â thâl neu ofalwyr di-dâl.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am i sefydliadau ddod â’u gwybodaeth o wahanol sectorau ynghyd. Rhaid i ymgeiswyr weithio mewn partneriaeth i wneud cais am yr arian hwn. Mae’n rhaid i’r bartneriaeth fod â phrofiad o weithio gyda phlant dan bump oed a’u gofalwyr, ac yn yr amgylchedd naturiol. Mae’r cyllidwr eisiau i sefydliadau ddod â’u gwybodaeth o wahanol sectorau ynghyd, er enghraifft, rheini sy’n gweithio mewn: blynyddoedd cynnar, natur a’r amgylchedd, ac iechyd a lles.

Bydd raid i ymgeiswyr ddangos sut y bydd y bartneriaeth yn:

  • cynnal gweithgareddau sy’n helpu plant a’u gofalwyr i gysylltu â’r amgylchedd naturiol, a gwella eu hiechyd a’u lles
  • cynnwys plant a’u gofalwyr yn nyluniad a chyflawniad y prosiect
  • gwella neu ddatblygu mannau naturiol cynhwysol a hygyrch
  • cefnogi pobl sy’n profi tlodi, gwahaniaethu neu anfantais
  • gwerthuso’r prosiect.

Mae’r rhaglen yn cynnig hyd at £25,000 ar gyfer grant datblygu a hyd at £2 filiwn i gyflawni’r prosiect, am hyd at chwe blynedd.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00pm, 1 Rhagfyr 2025

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors