Archwiliwch
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd y prif siaradwyr canlynol yn ymuno â ni yn ein Cynhadledd Genedlaethol – Polisi chwarae, ymchwil ac ymarfer: Cael pethau’n iawn i blant, a gynhelir ar 16 Hydref 2025:
Dawn Bowden AS
Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Wedi ei geni a’i magu ym Mryste, symudodd Dawn i dde Cymru yn 1989 ac fe gododd trwy rengoedd ei hundeb i ddod yn Bennaeth Iechyd UNSAIN Cymru, swydd a gynhaliodd hyd at ei hethol yn Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni ym mis Mai 2016.
Ym mis Mai 2021, penodwyd Dawn yn Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip, yna ym mis Mawrth 2024 fe’i penodwyd yn Weinidog Gofal Cymdeithasol. Yn nhymor diwethaf y Senedd, bu Dawn yn aelod o nifer o bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Ym mis Medi 2024, penodwyd Dawn yn Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Mae cyfrifoldebau’r Gweinidog yn cynnwys:
- Polisi’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, gan gynnwys y Cynnig Gofal Plant a’r gweithlu
- Hawliau a hawlogaethau plant a phobl ifanc, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Eiriolaeth i blant a phobl ifanc gan gynnwys cwynion, sylwadau ac eiriolaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Robyn Monro Miller AM
Fel un fu’n ddigon ffodus i fwynhau plentyndod iach a hapus, mae Robyn wedi ymroi ei gyrfa gyfan i eiriol am yr un peth i bob plentyn. Mae ei gyrfa wedi ymestyn dros 35 mlynedd, gan gwmpasu rolau uwch-arweinyddol mewn addysg, llywodraeth leol, gwasanaethau plant, a’r sector nid-er-elw.
Mae Robyn yn angerddol ynghylch sicrhau newid sy’n cyfoethogi polisi a chynllunio ar gyfer plant Awstralia. Fe wnaeth wasanaethu ar Gynghorau Cynghori Gweinidogol olynol a chwarae rhan bwysig yn niwygiad y sector gofal oedran ysgol yn Awstralia rhwng 1996 a 2018.
Mae Robyn yn Brif Swyddog Gweithredol Play Australia ac ers 2017 mae’n Llywydd yr International Play Association (IPA World). Mae wedi cynrychioli’r IPA ar weithgor y CU ar ddatblygiad y Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31, a’r gweithgor byd-eang ar gyfer ymgyrch Diwrnod Chwarae Rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar Gymrodoriaeth Churchill i archwilio llywodraethau sydd â mentrau chwarae cydnabyddedig i gefnogi iechyd a lles plant a’i gobaith yw y bydd hyn yn siapio agenda genedlaethol ar gyfer chwarae yn Awstralia.
Yr Athro Philip D. Jaffé
Mae Philip yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Genefa ac yn gyfarwyddwr sefydlol ei Ganolfan Astudiaethau Hawliau Plant.
Yn 2018, fe’i etholwyd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac ar hyn o bryd ef yw’r Is-Gadeirydd, yn gwasanaethu ail fandad. Yn 2025 cafodd ei benodi’n Gadeirydd Child Helpline International.
Yn seicolegydd clinigol a fforensig a hyfforddwyd yn y Swistir ac UDA, mae’n parhau i fod yn seicolegydd clinigol (seicotherapydd trwyddedig) a fforensig ymarferol, yn ogystal â thyst arbenigol a benodwyd gan y llys.
Ei brif genadaethau: bod yn ymarferydd gwyddoniaeth dylanwadol a toglo rhwng theori ac ymarfer sy’n canolbwyntio ar hawliau dynol.
Dr David Dallimore
Mae David yn ymgynghorydd polisi ac ymchwilydd annibynnol. Er ei fod wedi gweithio ar brosiectau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a chymdeithas sifil, ei brif ddiddordeb erioed yw addysg a gofal plentyndod cynnar, chwarae plant a hawliau plant.
Mae David yn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru, yn Gymrawd Gwasanaeth Ymchwil y Senedd ac yn Gadeirydd Blynyddoedd Cynnar Cymru. Ers 2019, mae David wedi bod yn dadansoddi data Arolwg Bodlonrwydd Chwarae ar ran Chwarae Cymru.
Mae archebion ar gyfer cynhadledd yn cau ar 30 Medi 2025 – archebwch nawr i osgoi cael eich siomi.