Cym | Eng

Newyddion

Diweddariad ar yr Adolygiad NOS Gwaith Chwarae

Date

26.08.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU wedi cyhoeddi taflen wybodaeth newydd sy’n rhoi diweddariad am gynnydd yr adolygiad o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Chwarae (NOS).

Mae’r daflen wybodaeth yn adrodd ar weithgareddau a chyflawniadau allweddol a wnaed ers mis Ionawr 2025. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • sefydlu grwpiau arbenigol
  • datblygu map swyddogaethol
  • adolygu a drafftio’r NOS.

Nod y daflen wybodaeth yw sicrhau bod y sector gwaith chwarae yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, a sicrhau yr ymgynghorir â’r sector a’i fod yn rhan o’r broses gyfan.

Lawrlwythwch Daflen wybodaeth #3

Cefndir

Mae Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU yn cynnwys Chwarae Cymru, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland, Play England a’r Playwork Foundation. Sefydlwyd y consortiwm i gynllunio’n strategol ar draws y pedair gwlad ar gyfer dyfodol mentrau datblygu’r gweithlu a sgiliau sector, gan gynnwys adolygiad o’r NOS.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiben NOS, y broses gymeradwyo a Chonsortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU, darllenwch daflen wybodaeth #1, taflen wybodaeth #2 neu anfonwch e-bost.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors