Digwyddiad arall
Wythnos Addysg Oedolion
Dyddiad
15/09/2025 - 21/09/2025
Pris (aelod)
Free
Trefnydd
Sefydliad Dysgu a Gwaith a Llywodraeth Cymru
Lleoliad
Ledled Cymru
Cynhelir Wythnos Addysg Oedolion rhwng 15 a 21 Medi 2025. Dyma’r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru gyda dros 10,000 o oedolion yn cymryd rhan bob blwyddyn. Mae’r ymgyrch yn cael ei gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd am ddysgu a datblygu sgiliau ar gyfer gwaith a thrwy gydol eu hoes. Bydd yr Wythnos Addysg Oedolion yn cyfeirio at gannoedd o gyrsiau, digwyddiadau, sesiynau blasu, diwrnodau agored ac adnoddau dysgu sy’n rhad ac am ddim ac yn hygyrch i bawb.