Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar y newidiadau arfaethedig i’r rheolau ynghylch cofrestru gwarchod plant a gofal dydd, a datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol.
Y materion yr ymgynghorir arnynt yw:
- y newidiadau a gynigiwyd i’r amgylchiadau lle nad yw’n ofynnol i ddarparwr gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd
- y cynnig i ddatblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau sydd wedi’u heithrio rhag gorfod cofrestru
- effaith bosibl y newidiadau hyn ar ystod o ffactorau, gan gynnwys y Gymraeg.
Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi a bydd cyngor yn cael ei roi i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Trefnir ymgynghori a/neu ymgysylltu pellach os yw’n briodol.
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 3 Tachwedd 2025