Cym | Eng

Newyddion

Ymchwil Egwyddorion Gwaith Chwarae – rhannwch eich barn

Date

12.08.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae 2025 yn nodi 20fed pen-blwydd yr Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae Chwarae Cymru wedi comisiynu Tîm Datblygiad Plentyndod a Gwaith Chwarae Prifysgol Leeds Beckett, i gynnal arolwg ar y raddfa y defnyddir yr Egwyddorion Gwaith Chwarae.

Mae’r ymchwil wedi ei ddylunio i ddysgu pa mor eang ac ym mha leoliadau y mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae wedi eu mabwysiadu 20 mlynedd ers iddynt gael eu dyfeisio gyntaf. Bydd hyn yn golygu holi’r sector gwaith chwarae’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, i ddynodi:

  • sefydliadau a rhanddeiliaid sydd wedi mabwysiadu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae neu sy’n defnyddio’r Egwyddorion Gwaith Chwarae i hysbysu eu gwaith
  • sefydliadau sydd wedi mabwysiadu ffurfiau amgen o egwyddorion canllaw ar gyfer gwaith chwarae.

Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw rôl neu gyfrifoldeb am hwyluso chwarae ar gyfer plant mewn lleoliad wedi ei staffio, i gwblhau’r holiadur hwn.

Rydym yn awyddus iddo gael ei ddosbarthu mor eang â phosibl, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ydych chi’n cynrychioli sefydliad sydd â chysylltiadau ar draws y gweithlu plant allai fod yn defnyddio’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn eu gwaith? Allech chi helpu i hyrwyddo’r arolwg? Os felly, e-bostiwch y Tîm Datblygiad Plentyndod a Gwaith Chwarae.

Dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg: 31 Rhagfyr 2025

Cwblhau’r holiadur ar-lein

 

Cefndir

Datblygwyd yr Egwyddorion Gwaith Chwarae gan Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae, a sefydlwyd gan Chwarae Cymru, mewn ymgynghoriad â sector gwaith chwarae’r DU a’u mabwysiadu yn 2005.

Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn sefydlu’r fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac, o’r herwydd, mae rhaid eu hystyried fel cyfanwaith. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn darparu’r persbectif gwaith chwarae ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae’r gwaith ymchwil yma wedi ei gymeradwyo gan Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n dal yr Egwyddorion Gwaith Chwarae mewn ymddiriedolaeth ar ran y sector.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors