Archwiliwch
Heddiw (6 Awst 2025), bydd miloedd o blant a’u teuluoedd allan yn chwarae mewn cymdogaethau ac mewn digwyddiadau lleol ar hyd a lled Cymru i ddathlu Diwrnod Chwarae, diwrnod ymwybyddiaeth blynyddol i bwysleisio pwysigrwydd a gwerth chwarae ym mywydau plant.
Fe ofynnom i bron i 8,000 o blant ac arddegwyr yng Nghymru ddweud wrthym beth sy’n dda a beth sydd ddim cystal am y cyfleoedd i chwarae yn eu hardal leol. Dyma ddywedon nhw wrthym ni.
Amser i chwarae
‘’Does gen i ddim diddordeb mewn chwaraeon a ’does dim byd arall ar gael yn lleol i blant fel fi.’
Er gwaetha’r ystadegyn calonogol bod 5,477 o blant ac arddegwyr yn chwarae’r tu allan y rhan fwyaf o ddyddiau, neu o leiaf ychydig ddyddiau’r wythnos, mae heriau’n dal i wynebu rhai plant. Yn anad dim, mae 37% o blant anabl yn fwy tebygol o beidio chwarae’r tu allan fyth, neu bron byth. At hynny, adroddodd 24% o blant ac arddegwyr ar draws Cymru nad oes ganddynt ddigon o amser i chwarae ac yr hoffent fwy o gyfleoedd.
Mannau i chwarae
‘Dim digon o ardaloedd chwarae awtistiaeth-gyfeillgar sy’n gallu bod yn rhy brysur a chodi ofn arna’ i.’ Bachgen, 10 oed
Tra bo 72% o blant ac arddegwyr yn fodlon gyda’r amrediad o fannau ble gallant chwarae neu hongian o gwmpas, mae rhai pryderon. Er enghraifft, mae 23% o blant anabl a 15% o blant ethnig lleiafrifol yn dweud nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel pan maen nhw’n chwarae neu’n hongian o gwmpas.
Rhyddid i chwarae
‘Mae angen i bobl hŷn beidio bod mor ddrwg eu tymer pan fydd plant yn cael hwyl.’
Merch, 10 oed
Dywedodd dros 1,000 o blant ac arddegwyr wrthym bod oedolion yn ddrwg eu tymer oherwydd eu bod yn chwarae’r tu allan yn eu cymdogaethau. Fel arfer, mae tymer ddrwg oedolion yn cael ei brofi fwy gan:
- blant hŷn (18%)
- plant anabl (16%)
- bechgyn (16%)
‘Mae rhieni’n anesmwyth amdanom ni’n mynd allan ar ein pennau ein hunain heb oruchwyliaeth oedolyn.’Merch, 8 oed
Mae canfyddiadau’r arolwg yn dangos hefyd bod mwy o ferched ddim yn derbyn caniatâd i chwarae’r tu allan ar eu pennau eu hunain o’i gymharu â bechgyn – yn enwedig merched iau (36%).
Mae rhoi digon o fannau o safon dda, digon o amser a rhyddid i chwarae i blant gyda’u ffrindiau’n hanfodol ar gyfer eu hapusrwydd, eu hiechyd, eu datblygiad a’u lles.
Tra ein bod yn falch mai’r darlun a gyflwynwyd gan blant ac arddegwyr ar draws Cymru yw eu bod yn cael caniatâd i fynd allan, yn teimlo’n ddiogel, ac yn gallu chwarae yn y mannau ble maent am chwarae a’u bod, ar y cyfan, yn fodlon gyda’u cyfleoedd i chwarae, mae dal lle i wella.
Mae ambell grŵp o blant ac arddegwyr yn sefyll allan yn eu hadrodd am lefel bodlonrwydd isel gyda’u cyfleoedd i chwarae. Mae’r rhain yn cynnwys plant ac arddegwyr anabl a phlant ac arddegwyr ethnig lleiafrifol. Byddwn yn parhau i ymgyrchu am fwy o gyfleoedd a gwell cyfleoedd i chwarae ar gyfer pob plentyn yng Nghymru, ar Ddiwrnod Chwarae ac ar bob dydd o’r flwyddyn.
Dywedodd Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru:
‘Bydd gan lawer o neiniau a theidiau a mam-guod a thad-cuod heddiw atgofion melys o dyfu i fyny mewn oes pan oedd plant yn chwarae’r tu allan, yn ac o amgylch eu cymdogaethau, gyda ffrindiau. Dyma oedd pawb yn ei wneud. Pan oedden nhw’n blant roedd yr amgylchedd o amgylch eu cartrefi’n llawn hudoliaeth ble gallent chwarae. Er bod mwy o geir ar y ffordd nawr, mae’r hudoliaeth yna’n dal i fodoli pe bai plant ond yn cael caniatâd i fynd allan i’w ddarganfod.
Mae plant sy’n byw ac yn chwarae yng Nghymru’n dweud wrthym fod cael mannau da i chwarae gyda ffrindiau’n agos i ble maen nhw’n byw yn bwysig iawn iddyn nhw. Mae eu galwadau am fwy o oddefgarwch ac amser i chwarae’n geisiadau rhesymol a dylai pob oedolyn fod yn edrych ar ffyrdd i’w gwneud hi’n haws i blant chwarae – bob dydd, fel yr arferai eu mam-guod a’u tad-cuod.’
Wrth i Ddiwrnod Chwarae gael ei ddathlu ar hyd a lled y DU, mae sefydliadau chwarae cenedlaethol hefyd yn galw am fwy o fannau croesawus a chynhwysol ble gall plant a phobl ifanc o bob oed a gallu chwarae’n rhydd a theimlo’n rhan o’u cymunedau.