Archwiliwch
Mae cronfa Tesco Stronger Starts yn cynnig grantiau hyd at £1,500 ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.
Gall sefydliadau cymwys wneud cais i fod yn y bleidlais cwsmeriaid tocyn glas yn eu siopau Tesco lleol. Dewisir tri achos da lleol bob tri mis.
Mae’r cynllun ar agor i ysgolion, sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol, cyrff iechyd, cynghorau plwyf/tref, awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc. Mae enghreifftiau o brosiectau a gefnogir yn cynnwys:
- cyfrannu at gostau cynllun chwarae haf
- cyllid tuag at glwb ieuenctid
- prynu offer ar gyfer gweithgareddau awyr agored neu dan do
- grwpiau Brownie neu Sgowtiaid sydd angen cyllid ar gyfer offer neu weithgareddau chwarae newydd.
Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am y grant.