Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Ffeithlun Blynyddol y Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar. Cafodd ei cyhoeddi ar y cyd gan Dawn Bowden AS, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Iaith Gymraeg.
Mae’r ffeithlun newydd yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu a nodir yng nghynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar i ddatblygu chwarae, dysgu a gofal i bob plentyn rhwng 0 a 5 oed. Mae’n trafod ansawdd y ddarpariaeth, mynediad at y ddarpariaeth a gwaith cefnogi a datblygu’r gweithlu gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r camau gweithredu a amlygwyd gan y ffeithlun yn cynnwys:
- darparu £5m o gyllid cyfalaf i awdurdodau lleol yn 2025-26 i gefnogi mynediad cynhwysol plant at gyfleoedd chwarae
- datblygu gwell cyfres arweinyddiaeth o ddysgu gwrth-hiliol ar gyfer arweinwyr gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin
- Cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o’r canllawiau statudol Cymru – Gwlad lle mae cyfle i chwarae i awdurdodau lleol.
Mae’r ffeithlun hefyd yn nodi beth arall y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i gyflawni’r cynllun hyd at ddiwedd tymor presennol y Senedd ym mis Mai 2026.