Archwiliwch
Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle wedi cyhoeddi gynlluniau i sefydlu corff cenedlaethol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Nod y sefydliad newydd fydd uno a chryfhau’r sector gwaith ieuenctid – sy’n cynnwys 900 o sefydliadau ar draws y y sector a gynhelir a’r sector gwirfoddol yn ymwneud â darparu gwaith ieuenctid. Bydd yn cefnogi arloesedd a chydweithredu a sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor.
Bydd grŵp cynghori, yn cynnwys pobl ifanc a chynrychiolwyr o bob rhan o’r sector gwaith ieuenctid a thu hwnt, yn cael ei sefydlu i edrych yn fanwl ar rôl a chylch gwaith corff cenedlaethol, ei strwythurau llywodraethu a sut mae’n cyd-fynd â sefydliadau eraill.
Wrth gyhoeddi’r cynlluniau yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid (23 i 30 Mehefin) dywedodd Lynne Neagle:
‘Bydd y sefydliad newydd cyffrous hwn yn sicrhau bod gan y llu o bobl ifanc dawnus, gweithwyr ieuenctid, a sefydliadau yn y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru’r strwythur, yr arweinyddiaeth a’r eiriolaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.’
Dywed Chwarae Cymru:
‘Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad am y penderfyniad i sefydlu corff cenedlaethol newydd, a fframwaith statudol, ar gyfer gwaith ieuenctid. Credwn y bydd y datblygiad hwn yn cefnogi mwy o gydweithio rhwng y sector chwarae a gwaith ieuenctid ac yn cyfrannu at fwy o gydlyniad rhwng polisi gwaith ieuenctid a chwarae.’