Archwiliwch
Rydym wedi cyhoeddi taflen wybodaeth newydd sy’n archwilio’r berthynas rhwng chwarae a chreadigedd ac mae’n edrych ar y buddiannau y maent yn eu cynnig i blant.
Wedi’i ysgrifennu gan Ben Tawil o Ludicology, mae Creadigedd a defnyddio offer mewn lleoliadau chwarae yn ystyried damcaniaethau sy’n ymwneud â darparu ar gyfer chwarae a chreadigedd. Mae’n cynnig awgrymiadau a chynghorion defnyddiol – er enghraifft awgrymiadau anhygoel ar gyfer gweithio gydag offer. Mae hefyd yn cynnwys:
- dulliau seiliedig ar damcaniaethau o feithrin chwarae creadigol, gan gynnwys theori rhannau rhydd
- creadigedd a defnyddio offer
- prosesau, rhagofalon a gweithdrefnau.
Mae’r daflen wybodaeth wedi ei hanelu at weithwyr chwarae ac mae hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant.