Archwiliwch
Mae’r Local Community Fund yn cefnogi prosiectau yng nghymunedau aelodau’r Co-op sy’n darparu mynediad at gyfleoedd ac adnoddau i helpu pobl i ffynnu. Mae £6,000 ar gael ym mhob cymuned a bydd y cyllid yn cael ei rannu rhwng tri achos lleol.
Bydd y swm y bydd eich prosiect yn ei dderbyn yn seiliedig ar nifer yr aelodau Co-op sy’n dewis eich achos. Bydd pob achos yn derbyn o leiaf £1,000.
Gallwch wneud cais os ydych chi’n grŵp nid-er-elw sydd angen cyllid i gyflawni prosiect penodol sy’n fuddiol i’ch cymuned leol. Prosiectau cymwys yw’r rheini sy’n helpu pobl i ffynnu mewn un o’r ffyrdd canlynol:
- galluogi pobl i gael mynediad at fwyd
- creu cyfleoedd i bobl ifanc
- gwella lles meddyliol pobl
- hyrwyddo cydlyniant cymunedol
- adeiladu dyfodol cynaliadwy.
Mae’r corff ariannu hefyd yn awyddus i gefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 20 Gorffennaf 2025.