Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Amddifadedd chwarae: yr achosion a’r canlyniadau ar gyfer datblygiad plant, a photensial gwaith chwarae

Pwnc

Llyfrgell adnoddau

Dyddiad cyhoeddi

12.03.2024

Darllen yr adnodd

Amddifadedd chwarae: yr achosion a’r canlyniadau ar gyfer datblygiad plant, a photensial gwaith chwarae

Awdur: Yr Athro Emeritws Fraser Brown
Dyddiad: Chwefror 2024

Mae’r daflen wybodaeth hon am amddifadedd chwarae a photensial gwaith chwarae i oresgyn y canlyniadau. Mae wedi’i hanelu at ddarparwyr chwarae, ymchwilwyr chwarae a’r rhai sydd â diddordeb mewn chwarae, iechyd a lles plant.

Mae’r daflen yn archwilio ymchwil ar y cysylltiadau rhwng dirywiad mewn cyfleoedd plant i chwarae a materion iechyd meddwl a chymdeithasol cynyddol. Mae’n edrych ar:

  • y cysyniad o amddifadedd chwarae a’i ystyr
  • y berthynas rhwng chwarae a lles meddyliol a datblygiad cymdeithasol plant
  • canlyniadau amddifadedd chwarae
  • effaith gadarnhaol defnyddio dull gwaith chwarae.

Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn 2013, un o’r ychwanegiadau mwyaf defnyddiol i’r fersiwn newydd yw tabl lle mae Fraser yn rhoi crynodeb trylwyr o fanteision chwarae a pheryglon amddifadedd chwarae.

Mae’r daflen wybodaeth yn ymdrin â sbectrwm amddifadedd chwarae – o achosion o esgeuluso ac amddifadedd plant eithafol i’r dylanwadau sy’n effeithio ar chwarae plant yn niwylliant heddiw. Gan dynnu ar ymchwil Fraser ei hun a thystiolaeth arall ar draws y sbectrwm hwn, mae’n trafod sut y gall agwedd gwaith chwarae fynd i’r afael â chanlyniadau negyddol amddifadedd chwarae.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Ymchwil | 08.10.2025

Tir cyffredin: Archwilio ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid yng Nghymru Tir cyffredin: Archwilio ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid yng Nghymru

Adroddiad ymchwil ar y cysylltiadau rhwng ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid

Gweld

Cylchgrawn | 26.09.2025

Chwarae dros Gymru – rhifyn 65 Chwarae dros Gymru – rhifyn 65

Rhifyn chwarae yn y gymdogaeth ein cylchgrawn

Gweld

Llyfrgell adnoddau | 19.08.2025

Ffocws ar chwarae – Chwarae mewn gofal iechyd Ffocws ar chwarae – Chwarae mewn gofal iechyd

Papur briffio ar gyfer y rhai sy’n cefnogi lles plant ac arddegwyr sy’n gleifion mewn ysbytai neu leoliadau cymunedol, fel hosbisau plant.

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors