Cym | Eng

Newyddion

Lansio cynnig newydd i ymgorffori hawliau plant yng nghyfraith Cymru

Date

04.06.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae cynnig deddfwriaethol sy’n galw ar y Senedd i ymgorffori hawliau plant yng nghyfraith Cymru wedi’i lansio heddiw.

Mae Bil Pob Plentyn wedi cael ei cyflwyno gan Jane Dodds AS, gyda chefnogaeth gan fwy nag 20 o sefydliadau, gan gynnwys Chwarae Cymru.

Mae’r cynnig  yn galw ar bob plaid gwleidyddol i ymrwymo i osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus i wrando’n weithredol ar, amddiffyn a chefnogi pob plentyn yng Nghymru – waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau. Ei nod yw sicrhau bod hawliau plant yn cael eu trin fel rhywbeth sylfaenol i benderfyniadau cyhoeddus ac atebolrwydd.

Mae’r ymgyrch y tu ôl i Bil Pob Plentyn yn deillio o gydnabyddiaeth gynyddol, er gwaethaf cynnydd, bod gormod o blant, yn enwedig y rhai sydd mewn gofal, yng Nghymru yn dal i wynebu rhwystrau i gael eu clywed, eu bod yn ddiogel a’u cefnogi’n iawn.

Dywed Jane Dodds AS, Cadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol Plant a Theuluoedd a Plant yn Ein Gofal:

‘Mae hyn yn ymwneud ag adeiladu Cymru lle mae pob plentyn yn gwybod bod ei llais yn bwysig, lle mae eu diogelwch yn cael ei amddifyn gan y gyfraith, a lle mae eu dyfodol yn cael ei lunio ag urddas a gofal.’

Dywed Chwarau Cymru:

‘Mae Cymru’n cael ei hystyried yn gywir fel gwlad lle rhoddir blaenoriaeth i chwarae plant. Nodwyd yr angen am y ddeddfwriaeth hon yn yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Mae gan y ddeddf Bil Pob Plentyn y potensial i ymestyn y ddeddfwriaeth bresennol a sicrhau bod chwarae’n cael y flaenoriaeth y mae’n ei haeddu.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors