Archwiliwch
Mae recordiadau o gyfres pedair rhan o weminarau Trafod Digonolrwydd Chwarae bellach ar gael i’w gwylio ar-lein.
Mae’r gweminarau yn edrych ar hyd a lled digonolrwydd chwarae. Maent yn rhan o ymchwil pellach i Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru a mabwysiadu a gweithredu’r cysyniad o ddigonolrwydd chwarae yng nghyd-destun ehangach y DU.
Cafodd y gweminarau eu cynnal a’u cymedroli gan Dr Wendy Russell (Prifysgol Swydd Gaerloyw) a Mike Barclay a Ben Tawil (Ludicology), gyda chefnogaeth gan Chwarae Cymru.
Mae’r gweminarau Trafod Digonolrwydd Chwarae yn cynnwys:
Cyflwyno digonolrwydd chwarae: pam a sut
Cyflwynwyd y cysyniad o ddigonolrwydd chwarae, pam ei fod yn bwysig, a dulliau o asesu a sicrhau cyfleoedd digonol i chwarae.
Y siaradwyr a gymerodd ran yn y gweminar yw:
- Dr Wendy Russell, Prifysgol Swydd Gaerloyw
- Ben Tawil, Ludicology
- Mike Barclay, Ludicology
- Theresa Casey
- Keith Towler, Chwarae Cymru
- Mike Greenaway, Chwarae Cymru
Digonolrwydd chwarae ar lefel genedlaethol
Rhannwyd enghreifftiau o ymatebion posibl i ddigonolrwydd/ annigonolrwydd chwarae ar lefel genedlaethol a thrafodwyd beth sy’n gwneud yr ymatebion hynny’n bosibl.
Y siaradwyr a gymerodd ran yn y gweminar yw:
- Ruth Conway, Llywodraeth Cymru
- Alan Herron, Playboard Northern Ireland
- Marguerite Hunter Blair, Play Scotland
- Marianne Mannello, Chwarae Cymru
- Eugene Minogue, Play England
- Adrian Voce, Starlight
Digonolrwydd chwarae ar lefel awdurdod lleol
Rhannwyd enghreifftiau o ymatebion posibl i ddigonolrwydd/ annigonolrwydd chwarae ar lefel awdurdod lleol a thrafodwyd beth sy’n gwneud yr ymatebion hynny’n bosibl.
Y siaradwyr a gymerodd ran yn y gweminar, ac sy’n gweithio ar draws gwahanol gyd-destunau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yw:
- Jenny Rutherford, Cyngor Dinas Leeds
- Etive Currie, Cyngor Dinas Glasgow
- Tracey Jobber, Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Sandwell
- Gareth Stacey, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Digonolrwydd chwarae ar lefel cymdogaeth
Rhannwyd enghreifftiau o ymatebion posibl i ddigonolrwydd/ annigonolrwydd chwarae ar lefel leol a lefel cymdogaeth a thrafodwyd beth sy’n gwneud yr ymatebion hynny’n bosibl.
Y siaradwyr a gymerodd ran yn y weminar ac sy’n gweithio ym maes digonolrwydd chwarae ar lefel cymdogaeth mewn gwahanol gyd-destunau yw:
- Lauren Cole, Cyngor Sir Gâr
- Michael Follett , OPAL (Outdoor Play and Learning)
- Matluba Khan, Prifysgol Caerdydd
- Alison Steening, Playing Out a Phrifysgol Newcastle.