Archwiliwch
Rydym yn galw am gynigion gweithdai ar gyfer ein cynhadledd genedlaethol sy’n digwydd yng Nghaerdydd ar 16 Hydref 2025. Bydd cynhadledd eleni’n canolbwyntio ar bolisi chwarae, ymchwil ac ymarfer: cael pethau’n iawn i blant.
Rydym yn gwahodd pawb sydd â diddordeb mewn, neu â chyfrifoldeb am, chwarae plant i anfon cynnig i gynnal gweithdy. Rydym yn edrych am weithdai ar theori, gweithdai ymarferol, a gweithdai wedi’u seilio ar ymchwil, ar amrywiaeth o themâu:
- Chwarae a chynhwysiant
- Chwarae a chynllunio
- Chwarae a meysydd chwarae
- Chwarae a’r blynyddoedd cynnar
- Chwarae ac iechyd
- Chwarae mewn ysgolion
- Datblygu’r gweithlu
- Digonolrwydd chwarae
- Gwaith chwarae.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn hwyluso gweithdy, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen gweithdy drwy ebost erbyn 25 Mehefin. Byddwn yn rhoi gwybod os yw eich gweithdy wedi ei ddewis erbyn 11 Gorffennaf.
Bydd y wybodaeth yr ydych yn ei ddarparu am eich gweithdy yn cael ei rannu gyda’r cynadleddwyr i’w helpu i ddewis pa weithdai y maent am eu mynychu. Bydd y cynadleddwyr angen gwybod beth y byddant yn ei gael o’ch gweithdy, a beth fyddwch chi’n ei ddisgwyl iddynt ei roi i mewn iddo.
Os dewisir eich gweithdy, byddwn yn cael un lle am ddim ichi fynychu’r gynhadledd. Bydd sesiynau gweithdy yn para 60 munud ac efallai y gofynnwn ichi gynnal eich gweithdy fwy nag unwaith.