Cym | Eng

Newyddion

Recordiad gweminar: Trafod Digonolrwydd Chwarae – Digonorwydd chwarae ar lefel cymdogaeth

Date

21.05.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae recordiad o’r pedweryddgweminar, a’r olaf, yn y cyfres Trafod Digonolrwydd Chwarae, sef Digonolrwydd chwarae ar lefel cymdogaeth ar gael nawr i’w wylio ar-lein. Mae’r weminar hwn yn rhannu enghreifftiau o waith a wnaed i gefnogi digonolrwydd chwarae ar lefel cymdogaeth, gan archwilio beth sy’n gwneud y gwaith hwn yn bosibl.

Y siaradwyr a gymerodd ran yn y weminar ac sy’n gweithio ym maes digonolrwydd chwarae ar lefel cymdogaeth mewn gwahanol gyd-destunau yw:

  • Lauren Cole, Cyngor Sir Gâr
  • Michael Follett , OPAL (Outdoor Play and Learning)
  • Matluba Khan, Prifysgol Caerdydd
  • Alison Steening, Playing Out a Phrifysgol Newcastle

Cynhaliwyd a chymedrolwyd y gweminar gan Dr Wendy Russell (Prifysgol Swydd Gaerloyw) a Mike Barclay a Ben Tawil (Ludicology), gyda chefnogaeth gan Chwarae Cymru a chefnogaeth dechnegol gan Genero.

Digwyddodd y gweminar ym mis Ebrill 2025. Mae’n rhan o gyfres o bedair gweminar sy’n edrych ar hyd a lled digonolrwydd chwarae.

Mae’r gyfres o weminarau yn rhan o ymchwil pellach i Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru a mabwysiadu a gweithredu’r cysyniad o ddigonolrwydd chwarae yng nghyd-destun ehangach y DU. Maent yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Swydd Gaerloyw a Ludicology, gyda chefnogaeth Chwarae Cymru.

Gwyliwch y weminar

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors