Archwiliwch
Mae ein hadroddiad effaith diweddaraf yn cyflwyno trosolwg o gyflawniadau Chwarae Cymru wrth ymgyrchu dros hawl plant i chwarae, o fis Ebrill 2023 tan mis Mawrth 2024. Mae’r adroddiad effaith yn anelu i ddathlu’r cyfraniad y mae Chwarae Cymru wedi’i wneud i chwarae plant yng Nghymru, ac egluro sut y gwnaethom gyflawni ein nodau a’n amcanion yn ystod y flwyddyn.
Mae adroddiad 2023-2024 yn cynnwys:
- diweddariad gan ein Cadeirydd, Keith Towler
- crynodeb o’n gwaith, gan gynnwys esiamplau o brosiectau i wella a chynyddu cyfleoedd chwarae i blant mewn amrywiaeth o amgylcheddau
- gwybodaeth am sut rydym wedi cefnogi’r gweithluoedd chwarae a gwaith chwarae i fod yn weithwyr proffesiynol hyddysg – o drosglwyddo cymwysterau a digwyddiadau, i ddarparu adnoddau ac ymchwil gyfredol i hysbysu gwaith
- adran ar ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth inni barhau i gefnogi a hyrwyddo chwarae plant.
Lawrlwytho Ein hadroddiad effaith