Cym | Eng

Newyddion

Gwneud digwyddiadau cymunedol yn chwareus – taflen wybodaeth

Date

21.05.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae digwyddiadau cymunedol yn gyfleoedd delfrydol i gwrdd â phobl eraill o bob oedran mewn ffordd hwyliog a chyfeillgar yn y gymdogaeth – ac i hyrwyddo pwysigrwydd chwarae.

Bydd sicrhau bod digwyddiadau cymunedol yn rhai chwareus yn golygu y gall plant, arddegwyr ac oedolion gwrdd a threulio amser gyda’i gilydd mewn awyrgylch ymlaciol. Pan roddir cyfle i blant chwarae, byddant yn cwrdd ac yn dod i adnabod plant ac oedolion eraill yn y gymdogaeth, gan greu agosrwydd, ymddiriedaeth ac ysbryd cymdogol. Bydd hyn yn helpu rhieni i ennill hyder i ganiatáu i’w plant chwarae allan ar adegau eraill o’r flwyddyn.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn anelu i helpu i wneud digwyddiadau cymunedol yn fwy chwareus ar gyfer plant ac arddegwyr. Mae hefyd yn cynnig syniadau am sut i greu profiadau chwareus, ynghyd â syniadau chwarae rhad, syml.

Lawrwythwch y daflen wybodaeth

 

Cyfleoedd i gynnal digwyddiadau cymunedol

 

Cadwch y dyddiadau isod ar gyfer y dyddiau dathlu cenedlaethol (DU) a byd-eang sydd yn digwydd yn fuan. Maent yn cynnig cyfleoedd delfrydol i gynnal digwyddiad chwareus i blant ac arddegwyr yn eich cymunedau:

Y Cinio Mawr
7 i 8 Mehefin 2025

Y Cinio Mawr yw ymgynulliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion a chymunedau, gyda miliynau o bobl yn dod at ei gilydd am ychydig oriau o gyfeillgarwch, bwyd a hwyl. Mae’n ffordd wych i bobl ddod i adnabod ei gilydd yn well, cael amser da a dathlu lle maen nhw’n byw.

Diwrnod Rhyngwladol Chwarae
11 Mehefin 2025

Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod hawl plant i chwarae a’i bwysigrwydd i’w lles. Mae’r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth byd-eang o bwysigrwydd chwarae ac i ymgyrchu dros sicrhau bod chwarae’n cael ei werthfawrogi ym mhob agwedd ar fywydau plant.

Diwrnod Chwarae
6 Awst 2025

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol blynyddol ar gyfer chwarae yn y DU. Y thema eleni yw Mannau i Chwarae. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd allweddol mannau hygyrch, cynhwysol ble caiff plant ac arddegwyr gyfleoedd i chwarae’n rhydd, gan dreulio amser a chysylltu gyda’u ffrindiau – a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o’u cymuned.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors