Cym | Eng

Newyddion

Recordiad gweminar: Trafod Digonolrwydd Chwarae – Digonolrwydd chwarae ar lefel awdurdod lleol

Date

06.05.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae recordiad o’r drydedd gweminar yn y cyfres Trafod Digonolrwydd Chwarae, sef Digonolrwydd chwarae ar lefel awdurdod lleol ar gael nawr i’w wylio ar-lein. Mae’r gweminar yn rhannu enghreifftiau o ymatebion posibl i ddigonolrwydd/ annigonolrwydd chwarae ar lefel awdurdod lleol ac yn trafod beth sy’n gwneud yr ymatebion hynny’n bosibl.

Y siaradwyr a gymerodd ran yn y gweminar, ac sy’n gweithio ar draws gwahanol gyd-destunau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yw:

  • Jenny Rutherford, Cyngor Dinas Leeds
  • Etive Currie, Cyngor Dinas Glasgow
  • Tracey Jobber, Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Sandwell
  • Gareth Stacey, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Cynhaliwyd a chymedrolwyd y gweminar gan Dr Wendy Russell (Prifysgol Swydd Gaerloyw) a Mike Barclay a Ben Tawil (Ludicology).

Digwyddodd y gweminar ym mis Ebrill 2025. Mae’n rhan o gyfres o bedair gweminar sy’n edrych ar hyd a lled digonolrwydd chwarae. Mae’r gyfres o weminarau yn rhan o ymchwil pellach i Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru a mabwysiadu a gweithredu’r cysyniad o ddigonolrwydd chwarae yng nghyd-destun ehangach y DU. Maent yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Swydd Gaerloyw a Ludicology, gyda chefnogaeth Chwarae Cymru.

Gwyliwch y weminar

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors