Archwiliwch
Diwrnod chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol dros chwarae, dathliad o hawl plant i chwarae, a gynhelir bob blwyddyn ar Ddydd Mercher cyntaf mis Awst. Cynhelir Diwrnod Chwarae 2025 ar Ddydd Mercher 6 Awst.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r thema ar gyfer Diwrnod Chwarae eleni yw … Mannau i Chwarae.
Mae’r thema eleni’n pwysleisio pwysigrwydd allweddol mannau hygyrch, cynhwysol ble caiff plant ac arddegwyr gyfleoedd i chwarae’n rhydd, gan dreulio amser a chysylltu gyda’u ffrindiau – a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o’u cymuned. Bydd plant yn chwarae yn unrhyw le ac ym mhobman, felly mae mynediad i fannau a lleoedd chwareus o safon yn hanfodol ar gyfer eu hapusrwydd a’u datblygiad, gan gynnig cyfleoedd i roi hwb i iechyd corfforol yn ogystal â lles meddyliol.
Y Diwrnod Chwarae hwn, rydym yn galw am fannau i chwarae sy’n:
- Gynhwysol a chroesawus i blant ac arddegwyr o bob oed a gallu
- Creu cymdogaethau chwareus, diogel ble gall plant chwarae’n rhydd bob dydd
- Mwyafu’r potensial ar gyfer chwarae mewn ysgolion, gofal plant, a lleoliadau ieuenctid
- Cael eu siapio gan leisiau, anghenion a phrofiadau’r plant a’r arddegwyr eu hunain
- Cefnogi chwarae sy’n hybu hwyl, cyfeillgarwch, bod yn fywiog, mwynhau byd natur, a chreu ymdeimlad cryf o berthyn
- Annog teuluoedd, gofalwyr, a chymunedau i ddod ynghyd trwy chwarae ar draws y cenedlaethau.
Mae gan ein plant a’n harddegwyr i gyd hawl i chwarae – ac maent yn haeddu cael amser, lle, rhyddid, a chyfle i wneud hynny, bob dydd. Y Diwrnod Chwarae hwn, rydym yn annog teuluoedd, arweinwyr cymunedol, cynllunwyr, datblygwyr, a phawb sy’n siapio bywydau plant i eiriol dros fannau gwell i chwarae. Gyda’n gilydd, gallwn greu byd cynhwysol, mwy chwareus ble gall pob plentyn dyfu, ffynnu, a pherthyn.
Am y diweddaraf ar yr ymgyrch eleni, dilynwch ni ar Facebook ac X ac ymunwch yn yr hwyl trwy ddefnyddio’r hashnodau #DiwrnodChwarae2025 a #MannauIChwarae.
Adnoddau ymgyrchoedd a digwyddiadau
Gall unrhyw un drefnu digwyddiad Diwrnod Chwarae. Bob blwyddyn, mae adnoddau ar gael i gefnogi trefnwyr digwyddiadau Diwrnod Chwarae – gan gynnwys posteri gwybodaeth a digwyddiad.
Gallwch hefyd lawrlwytho Awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Chwarae Chwarae Cymru – i helpu i wneud eich digwyddiad yn llwyddiant.