Archwiliwch
Mae Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden AS wedi cyflwyno’r Adroddiad Cynnydd ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn a’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd hyd at fis Mai 2026 i gyflawni canlyniadau disgwyliedig y Grŵp Llywio Adolygiad Gweinidogol o Chwarae.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog fod 48 o gamau gweithredu tymor byr, canolig a thymor hir wedi’u cwblhau o’r 67 a amlygwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r cynnydd yn erbyn y 19 o gamau gweithredu tymor canolig a hirdymor sy’n weddill a sut y caiff pob un ei symud ymlaen.
Dywedodd y Gweinidog:
‘Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi ein huchelgais o wella argaeledd cyfleoedd chwarae a gwella ansawdd mannau chwarae, gan greu mannau chwarae cynhwysol a hygyrch.
‘Hoffwn ddiolch i Chwarae Cymru, yr awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill am eu cefnogaeth barhaus i chwarae plant, gan gefnogi ein huchelgeisiau i wireddu’r freuddwyd o Gymru’n dod yn wlad lle mae cyfle i chwarae yn realiti.’
Mae’r Adroddiad Cynnydd ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae yn nodi camau nesaf Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o’r Canllawiau Statudol, Cymru – Gwlad Lle Mae Cyfle i Chwarae yn ddiweddarach y mis hwn.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Chwarae Cymru i gefnogi’r dadansoddiad o Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a chynlluniau gweithredu sydd i’w cyflwyno gan awdurdodau lleol erbyn 30 Mehefin 2025.