Cym | Eng

Newyddion

Dathlu Wythnos Gyrfaoedd 2025

Date

04.03.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

I ddathlu Wythnos Gyrfaoedd (3 – 8 Mawrth 2025), rydym yn tynnu sylw at y proffesiwn gwaith chwarae trwy rannu gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen i fod yn weithiwr chwarae a sut i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch hyfforddiant mewn gwaith chwarae.

Beth sydd ei angen i fod yn weithiwr chwarae?

Gellir disgrifio gwaith chwarae fel y grefft o weithio gyda phlant wrth iddyn nhw chwarae. Mae’n alwedigaeth gydnabyddedig gyda set o safonau proffesiynol, hyfforddiant, cymwysterau a gyrfaoedd. Deall sut i gefnogi chwarae plant yw’r dasg bwysicaf i weithiwr chwarae ac mae angen set o rinweddau penodol arnynt, gan gynnwys y gred bod gan blant yr hawl i chwarae.

Mae chwarae’n hynod fuddiol, gan helpu plant i herio eu hunain, cadw’n heini a gwneud synnwyr o bethau anodd. Yn bennaf oll, mae chwarae’n hwyl! Os ydych yn ystyried gyrfa mewn gwaith chwarae, neu’n awyddus i ddarganfod mwy, dysgwch beth mae’n ei olygu i fod yn weithiwr chwarae yn y fideo byr hwn.

Os hoffech chi becyn cyfryngau i helpu i ledaenu’r gair am yr hyn sydd ei angen i fod yn weithiwr chwarae, cysylltwch â ni.

 

Hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae

Mae’r sector gwaith chwarae’n cwmpasu nifer o wahanol broffesiynau, y gallai llawer ohonynt elwa o hyfforddiant neu gymwysterau gwaith chwarae. Waeth beth yw eich diddordeb mewn gwaith chwarae, gall Chwarae Cymru eich helpu i ddod o hyd i’r dysg sy’n gywir i chi.

Dysgwch fwy am hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae

 

Fforwm Gweithwyr Chwarae 2025

2 – 3 Gorffennaf 2025
Y Glôb Helyg, Rhaeadr, Powys

Wythnos i fynd nes bydd archebu yn agor ddydd Mercher 12 Mawrth am 12pm.

Mae’r Fforwm Gweithwyr Chwarae yn ddigwyddiad hyfforddiant gwaith chwarae preswyl, deuddydd o hyd dan gynfas sy’n rhoi cyfle i weithwyr chwarae ddysgu oddi wrth ei gilydd a hyfforddwyr gwaith chwarae profiadol. Mae’n cynnig datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) i’r rhai sy’n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Bydd nifer cyfyngedig o lefydd, felly archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors