Archwiliwch
Mae ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar gyfer Gorffennaf i Medi 2024 yn dangos bod gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru ar eu lefel isaf am y chwarter hwnnw ers i gofnodion ddechrau, gan gynnwys yn ystod y pandemig COVID-19.
Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025 hefyd yn darparu’r flwyddyn gyntaf o ystadegau ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
Mae’r ystadegau cyfun ar gyfer ffyrdd gyda therfynau cyflymder 20 a 30mya yn dangos bod tua 100 yn llai o bobl wedi’u lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn y 12 mis ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya. Mae hyn yn cael ei gymharu â’r un cyfnod flwyddyn cyn i’r cyflymder 20mya gael ei gyflwyno ac mae’n cyfateb i ostyngiad o 28%.