Archwiliwch
Mae’r KFC Foundation yn cynnig grantiau dwy flynedd o hyd at £3,000 y flwyddyn i fudiadau sy’n cefnogi pobl ifanc 11 i 25 oed sydd dan anfantais economaidd yn y DU. I fod yn gymwys, rhaid i fudiadau fod o fudd i bobl mewn o leiaf un o’r sefyllfaoedd canlynol:
- pobl sy’n gadael gofal
- pobl sy’n profi digartrefedd
- gofalwyr ifanc
- rhieni ifanc
- ffoaduriaid
- pobl ifanc sydd mewn perygl o gael neu sydd â phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol
Mae’r gronfa wedi’i hanelu at fudiadau llawr gwlad sy’n canolbwyntio ar rymuso pobl ifanc i gyflawni eu potensial ac adeiladu dyfodol cadarnhaol. Dylai gwasanaethau gynnwys darparu mannau diogel, helpu pobl ifanc i ddatgloi talent a meithrin sgiliau bywyd, mentora a gwella cyfleoedd pobl ifanc i gael cyflogaeth ystyrlon.
Ystyrir ceisiadau gan elusennau cofrestredig, cwmnïau budd cymunedol cofrestredig, clybiau neu gymdeithasau anghorfforedig neu elusennau anghofrestredig. Rhaid i elusennau cymwys fod wedi’u lleoli yn y DU a chael incwm blynyddol o ddim mwy na £400,000.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Chwefror 2025.