Cym | Eng

Swyddi Sector

Gweithiwr Siarad a Chwarae

Closing date

28/01/2025

Mudiad: Cyngor Rhondda Cynon Taf
Lleoliad: Rhondda Cynon Taf
Oriau gwaith: Llawn amser – 37 awr yr wythnos (dros dro hyd at 31 Mawrth 2026)
Cyflog: £30,060 y flwyddyn
Dyddiad cau: 28 Ionawr 2025

Pwrpas y rôl hon yw darparu cefnogaeth iaith gynnar o ansawdd uchel i blant ledled y fwrdeistref sirol, wedi’i thargedu at anghenion teuluoedd a gyfeirir at yr adran Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth.

bydd gofyn i chi weithio’n agos ag aelodau o garfanau eraill gan gynnwys therapydd lleferydd ac iaith, gweithwyr ymyrraeth ac ymwelwyr iechyd.

Mae’n hanfodol eich bod chi’n meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn a’r gallu i sgwrsio â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn glir ac yn gryno dros y ffôn, trwy alwad fideo ac wyneb yn wyneb. Bydd raid i chi fod yn hyblyg o ran eich cefnogaeth i deuluoedd.

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus:

  • cynnal asesiadau iaith cynnar ar gyfer plant sy’n troi 15 i 21 mis oed, sydd wedi’u cyfeirio at y gwasanaeth
  • cynllunio a chyflwyno sesiynau pwrpasol, yn rhithwir ac wyneb yn wyneb, gan gynnwys gwneud ymweliadau cartref.
  • darparu rhaglenni iaith cynnar yn y gymuned.

Mae naill ai meddu ar gymhwyster level 3 Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifainc, neu gymhwyster NVQ lefel 3 mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifainc, neu’r gallu i ennill FfCCh ymhen dwy flynedd o gael aseswr, yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Byddwch hefyd wedi cael hyfforddiant lleferydd ac iaith perthnasol fel hyfforddiant Elklan a/neu hyfforddiant Wellcomm.

Bydd gennych hefyd wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o’r materion sy’n wynebu plant a theuluoedd, prosesau a gweithdrefnau amddiffyn plant, a’r gallu i deithio’n annibynnol ledled y fwrdeistref sirol os oes angen.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors