Archwiliwch
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs eisiau clywed barn clybiau gofal plant all-ysgol sy’n cefnogi plant a theuluoedd mewn cymunedau o ddydd i ddydd.
Mae’r mudiad yn gofyn i bob clwb ar draws Cymru gwblhau ei Harolwg Clybiau Cenedlaethol 2024 fel y gallent gynrychioli a chefnogi’r sector gofal plant mewn ffyrdd ymarferol a strategol ledled Cymru.
Gyda’ch ymatebion chi gall Clybiau ddarparu llais unedig i gyfleu eich gwerth a’ch cryfderau, a hefyd eich heriau a’ch anghenion i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar bob lefel ledled Cymru. Bydd eich mewnbwn hefyd yn siapio strategaeth y fudiad a’i cefnogaeth i’r sector a Chlybiau unigol.
Bydd ymatebwyr i’r arolwg yn cael eu cynnwys yn awtomatig mewn lotri wobrau a ran ei clwb all-ysgol – bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap pan ddaw’r arolwg i ben.
Dyddiad cau i gwblhau’r arolwg: 31 Ionawr 2025