Digwyddiad arall
Ymwybyddiaeth o Droseddau Cyllyll: Cefnogi Pobl Ifanc
Dyddiad
26/11/2024
Amser
10:00am - 1:00pm
Pris (aelod)
£65
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Clywn ar y newyddion yn feunyddiol am bobl ifanc a throseddau cyllyll, nid yn Llundain yn unig, ond hefyd yng Nghymru. Mae pobl ifanc yn cael braw, yn cael niwed, a’r tristwch yw eu bod yn cael anafiadau marwol. Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn edrych ar y cynnydd mewn troseddau cyllyll, y tueddiadau cyfredol, y gyfraith, beth mae angen i staff ei wybod, a pha negeseuon dylen nhw fod yn eu cyfleu i bobl ifanc. Bydd yn edrych ar ffyrdd o gefnogi pobl ifanc, pryd mae atgyfeirio, a chynlluniau gweithredu sefydliadol.
Canlyniadau dysgu:
Erbyn diwedd y sesiwn bydd gennych wybodaeth am:
- troseddau cyllyll a’r gyfraith
- trosolwg o’r tueddiadau cyfredol
- mathau gwahanol o drais ieuenctid
- seicoleg: adwaith brwydro, ffoi a rhewi
- y nodweddion sy’n gwneud pobl ifanc yn fregus
- arwyddion ymwneud â hyn
- risgiau
- sut mae cefnogi pobl ifanc
- llwybrau atgyfeirio
- cynllun gweithredu.