Archwiliwch
Mae offeryn data diwygiedig ar gyfer gofal plant a chwarae wedi’i cyhoeddi gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae’r offeryn hunanadrodd data yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol gan 2,704 o ddarparwyr cofrestredig ledled Cymru, a gasglwyd drwy’r broses Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS).
Cyfunwyd y data SASS â data o flynyddoedd blaenorol i greu’r offeryn gweladwy hwn.
Mae’r offeryn data yn darparu gwybodaeth am:
- hyfforddiant a chymwysterau staff
- fframweithiau ansawdd yn cael eu defnyddio
- nifer y bobl sy’n gweithio yn y sector gofal plant a chwarae
- nifer y swyddi gwag.