Archwiliwch
Mae Grantiau Gwirfoddoli Cymru yn gynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddyfarnu drwy WVCA, i hyrwyddo a gwella gwirfoddoli yng Nghymru. Mae’r Prif Gynllun Grant yn cynnig cyllid o hyd at £30,000 y flwyddyn i fudiadau nid-er-elw sy’n cynnig prosiectau hyd at dwy flynedd o hyd.
Nodau’r cynllun grant yw:
- Cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan a’u cadw drwy chwalu’r rhwystrau i wirfoddoli i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r gymdeithas.
- Cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli cadarnhaol o ansawdd uchel sy’n ceisio recriwtio, cynorthwyo a hyfforddi gwirfoddolwyr.
- Hyrwyddo newidiadau yn y mudiadau a fydd yn cael budd er mwyn gwneud gwirfoddoli’n rhan o’u diwylliant, ee ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Ionawr 2025