Archwiliwch
Mae CGGC (WCVA) wedi lansio cynllun ariannu newydd ar ran Comic Relief, sy’n cynnig grantiau i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’r Grant Twf Sefydliadol yn cynnig hyd at £35,000 i fudiadau sydd ag incwm blynyddol o lai na £250,000. Ei nod yw rhoi’r cyfle i fudiadau gwneud newidiadau strategol sy’n cynyddueu cydnerthedd, er enghraifft:
- adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda mewn perthynas â gweithgaredd cymunedol eich mudiad
- cryfhau a mesur effaith eich gweithgaredd craidd a arweinir gan y gymuned
- datblygu ffyrdd newydd o weithio.
Mae’r cynllun yn cynnig cyllid o dan y themâu canlynol:
- Plant a phobl ifanc – dysgu a datblygu, datblygiad plentyndod cynnar
- Prosiectau cymunedol – canolbwyntio ar wasanaethau lleol gan gynnwys banciau bwyd, ceginau cymunedol a mannau diogel i bobl sy’n agored i niwed
- Allgymorth a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar deuluoedd – hanfodion ac anghenion sylfaenol / cymorth ariannol
- Digartrefedd
- Gwasanaethau iechyd meddwl.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 6 Rhagfyr 2024.