Cym | Eng

Newyddion

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol 2025

Date

09.10.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae enwebiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol (KAVS), sy’n dathlu gwaith rhagorol grwpiau gwirfoddol lleol ar draws y DU.

Rhaid i enwebiadau gael eu gwneud gan aelod o’r cyhoedd sydd â gwybodaeth dda am waith y grŵp (fel buddiolwr neu gefnogwr hirdymor – ond nid gwirfoddolwr neu ymddiriedolwr). Rhaid i’r enwebwr hefyd allu darparu dau lythyr cefnogaeth ar wahân gan ddau berson ychwanegol sy’n adnabod y grŵp yn dda.

I fod yn gymwys i’w henwebu, rhaid i’r grŵp cynnwys tri o bobl neu fwy, wedi’u lleoli yn y DU ac wedi’u harwain gan wirfoddolwyr. Mae meini prawf cymhwysedd pellach ar gael ar wefan KAVS.

Mae’r Wobr yn cyfateb i MBE, a dyma’r wobr uchaf a roddir i grwpiau gwirfoddol lleol yn y DU. Mae’n cael ei ddyfarnu am oes.

Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 1 Rhagfyr 2024

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors